Lady Chief Justice’s Report 2023 – 2024 / Adroddiad yr Arglwyddes Brif Ustus 2023 – 2024

CivilCoroners' CourtCriminalCrown CourtLady Chief JusticeMagistrates' courtReports

Skip to related content

Baroness Carr of Walton-on-the-Hill has today (Tuesday 19 November) laid before Parliament her first report as Lady Chief Justice of England and Wales.

In the report, the Lady Chief Justice reflects on the commitment of judges, magistrates, and coroners to the administration of justice over the year. In particular, she recognises the efforts of judges both in the Magistrates’ and Crown Courts for dealing with cases arising out of the civil disorder during the summer.

In her foreword, Baroness Carr acknowledges: “The year has brought with it both anticipated and unforeseen opportunities and challenges, each of which the judiciary has worked through or is continuing to navigate: advancements in technology, including artificial intelligence, progress in transparency, fresh or changing legislation, court closures due to estate issues and security concerns, to name but a few. It is in no small part because of the resilience and adaptability of judicial office holders, and our shared goal for commitment to progress, that we have managed to achieve so much.”

The report has also been translated in Welsh for the first time. You can read the full report in English or Welsh below.


Mae’r Farwnes Carr o Walton-on-the-Hill wedi cyflwyno ei hadroddiad cyntaf fel Arglwyddes Brif Ustus Cymru a Lloegr i senedd y DU heddiw (19 Tachwedd).

Yn yr adroddiad, mae’r Arglwyddes Brif Ustus yn cyfeirio at ymroddiad barnwyr, ynadon, a chrwneriaid i weinyddu cyfiawnder yn ystod y flwyddyn. Yn benodol, mae hi’n cydnabod ymdrechion barnwyr Llys y Goron a’r Llysoedd Ynadon am ddelio gydag achosion a godwyd o ganlyniad i’r anhrefn sifil yn ystod yr haf.

Yn ei rhagair, mae’r Farwnes Carr yn cydnabod: “Mae’r flwyddyn wedi cyflwyno cyfleoedd a heriau disgwyliedig a rhai annisgwyl, ac mae’r farnwriaeth wedi gweithio drwy’r rheini neu’n parhau i’w llywio: datblygiadau mewn technoleg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial, cynnydd gyda thryloywder, deddfwriaeth newydd a diwygiedig, llysoedd yn cau oherwydd problemau gydag ystadau, a phryderon diogelwch, i restru dim ond llond llaw ohonynt. Rydym wedi llwyddo i gyflawni cymaint oherwydd gwytnwch a hyblygrwydd deiliaid swyddi barnwrol, ac oherwydd ein nod cyffredin i ymrwymo i welliant a chynnydd.”

Mae’r adroddiad hefyd wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yn Gymraeg neu Saesneg isod.