Court of Appeal: Retirement of Lady Justice Nicola Davies / Y Llys Apêl: Ymddeoliad yr Arglwyddes Ustus Nicola Davies
Lady Justice Nicola Davies retires as a Lady Justice of Appeal with effect from 4 October 2025.
Background Information
Dame Nicola Velfor Davies DBE was called to the Bar (Gray’s Inn) in 1976, took Silk in 1992 and was elected as a Bencher in 2001. She was appointed a Recorder in 1998 and authorised to sit as a High Court Judge in 2003 pursuant to the Senior Courts Act 1981. She was appointed a High Court Judge (Queen’s Bench Division, now King’s Bench Division) in 2010. She was a Judicial College Board Member from 2011 to 2015. She was a Senior Liaison Judge for Diversity from 2012 to 2015. She was appointed a Member of the Special Immigration Appeals Commission in 2013 and served as the Presiding Judge of the Wales Circuit from 2014 to 2017. She was Chair of the Lord Chancellor’s Standing Committee on the Welsh language between 2016 and 2017. She was appointed as a Lady Justice of Appeal and made a Privy Counsellor in 2018. In 2023 she was appointed Treasurer of Gray’s Inn. In 2025 she was appointed Chancellor of Aberystwyth University. She is an Honorary Fellow of Cardiff University.
Bydd yr Arglwyddes Ustus Nicola Davies yn ymddeol fel Arglwyddes Ustus y Llys Apêl ar y 4ydd o Hydref 2025.
Gwybodaeth Gefndirol
Galwyd y Fonesig Nicola Velfor Davies DBE i’r Bar (Gray’s Inn) ym 1976, daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1992 a chafodd ei hethol yn Feinciwr yn 2001. Fe’i penodwyd yn Gofiadur ym 1998 ac fe’i hawdurdodwyd i eistedd fel Barnwr yr Uchel Lys yn 2003 yn unol â Deddf yr Uwch Lysoedd 1981. Fe’i penodwyd yn Farnwr yr Uchel Lys (Adran Mainc y Frenhines, Adran Mainc y Brenin bellach) yn 2010. Roedd hi’n Aelod o Fwrdd y Coleg Barnwrol rhwng 2011 a 2015. Roedd hi’n Uwch Farnwr Cyswllt dros faterion Amrywiaeth rhwng 2012 a 2015. Fe’i penodwyd yn Aelod o’r Comisiwn Apeliadau Mewnfudo Arbennig yn 2013 a gwasanaethodd fel Barnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru rhwng 2014 a 2017. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg rhwng 2016 a 2017. Fe’i penodwyd yn Arglwyddes Ustus y Llys Apêl a’i gwneud yn Gyfrin Gynghorydd yn 2018. Cafodd ei phenodi’n Drysorydd Gray’s Inn yn 2023. Yn 2025 fe’i penodwyd yn Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.