Deputy Chamber President of the First-tier Tribunal (Health, Education and Social Care Chamber) Retirement: Tudur / Ymddeoliad Is-lywydd Siambr y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol): Tudur

RetirementDeputy Chamber PresidentHealth, Education and Social Care Chamber (First-Tier)

Judge Meleri Tudur retires as Deputy Chamber President of the First-tier Tribunal (Health, Education and Social Care Chamber) with effect from 1 June 2025.

Background information

Judge Tudur was admitted as a Solicitor in 1983. She was appointed a part-time Chairman of the Social Security Appeal Tribunals in 1994, a Legal Chairman of the Special Educational Needs and Disability Tribunal for England in 1995 and a Legally Qualified Panel Member of Appeal Tribunals in 1999. She was appointed a Legal Chairman of the Care Standards Tribunal in 2000 and a Legal Chairman of the Special Educational Needs Tribunal for Wales in 2004. She was appointed a Judge of the First-tier Tribunal (Health, Education and Social Care Chamber) in 2011 and Deputy Chamber President of the First-tier Tribunal (Health, Education and Social Care Chamber) in 2014. She was authorised to sit as a High Court Judge (King’s Bench Division and Administrative Court) in 2019 pursuant to the Senior Courts Act 1981. She was appointed President of the Adjudication Panel for Wales in 2024.


Bydd y Barnwr Meleri Tudur yn ymddeol fel Is-lywydd Siambr y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) o 1 Mehefin 2025 ymlaen.

Gwybodaeth gefndir

Derbyniwyd Barnwr Tudur fel Cyfreithiwr yn 1983. Fe’i penodwyd yn Gadeirydd rhan amser y Tribiwnlysoedd Apeliadau Nawdd Cymdeithasol yn 1994, yn Gadeirydd Cyfreithiol y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd dros Loegr yn 1995 a daeth yn Aelod Panel sy’n Gyfreithiol Gymwys y Tribiwnlysoedd Apêl yn 1999. Fe’i penodwyd yn Gadeirydd Cyfreithiol y Tribiwnlys Safonau Gofal yn 2000 ac yn Gadeirydd Cyfreithiol y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig dros Gymru yn 2004. Fe’i penodwyd yn Farnwr y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) yn 2011 ac yn Is-lywydd Siambr y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) yn 2014. Fe’i hawdurdodwyd i eistedd fel Barnwr yr Uchel Lys (Adran Mainc y Brenin a’r Llys Gweinyddol) yn 2019 yn unol â Deddf yr Uwch Lysoedd 1981. Fe’i penodwyd yn Llywydd Panel Dyfarnu Cymru yn 2024.