Wales

The Business and Property Courts in Wales comprise the three specialist jurisdictions of the Chancery Division, the Circuit Commercial Court and the Technology and Construction Court.  The Courts are based in Cardiff but also sit regularly in the District Registry at Mold in North Wales and, when required, in other centres around Wales.

The Supervising Judge for the Business and Property Courts in Wales is Mr Justice Zacaroli. There are two Specialist Circuit Judges who are authorised to sit in all of the Courts’ lists: HHJ Jarman KC, who is the Chancery Judge, and HHJ Keyser KC, who is the Circuit Commercial Judge and also the principal judge in the TCC. In addition, the Designated Civil Judge for Wales, HHJ Harrison, is authorised to sit as a judge of the Chancery Division. Profiles of these judges and of the specialist BPC district judges can be found on the Judges page.

All Business and Property cases, of any value and complexity, may be issued and heard in Wales, save only for cases in the following lists, which must be issued in London: the Commercial Court (as distinct from the Circuit Commercial Court); the Patents Court; the Revenue List; the Financial List; and competition law cases involving allegations of breach of articles 101 and 102 of the EU Treaty or their equivalents in Chapter I and II of the Competition Act 1998.


Mae’r Llysoedd Busnes ac Eiddo yng Nghymru yn cynnwys tair awdurdodaeth arbenigol yr Adran Siawnsri, Llys Masnachol y Gylchdaith a’r Llys Technoleg ac Adeiladu.  Mae’r Llysoedd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd ond hefyd maent yn eistedd yn rheolaidd yn y Gofrestrfa Ranbarthol yn Yr Wyddgrug yng Ngogledd Cymru a, pan fo angen, mewn canolfannau eraill o gwmpas Cymru.

Y Barnwr Goruchwyliol dros y Llysoedd Busnes ac Eiddo yng Nghymru yw Mr Ustus Zacaroli.  Mae dau Farnwr Cylchdaith Arbenigol sydd wedi eu hawdurdodi i eistedd ym mhob un o restrau’r Llysoedd: Ei Anrhydedd y Barnwr Jarman CB, sef y Barnwr Siawnsri, a’i Anrhydedd y Barnwr Keyser CB, sef Barnwr Masnachol y Gylchdaith sydd hefyd yn brif farnwr yn y TCC.  Yn ogystal, mae Barnwr Sifil Dynodedig Cymru, Ei Anrhydedd y Barnwr Harrison, wedi’i awdurdodi i eistedd yn farnwr yn yr Adran Siawnsri.  Mae proffiliau’r barnwyr hyn a’r barnwyr rhanbarth arbenigol BPC i’w gweld ar y dudalen “Barnwyr”.

Gellir cyhoeddi a gwrando pob achos Busnes ac Eiddo, ni waeth beth yw’r gwerth na’r cymhlethdod, yng Nghymru, oddieithr achosion yn y rhestrau canlynol, y mae’n rhaid eu cyhoeddi yn  Llundain: y Llys  Masnachol (o’i ystyried ar wahân i Lys Masnachol y Gylchdaith); y Llys Patentau; y Rhestr Refeniw; y Rhestr Ariannol; ac achosion cyfraith gystadleuaeth yn ymwneud â honiadau o dorri erthyglau 101 a 102 Cytundeb yr UE neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt ym Mhennod I a II Deddf Cystadleuaeth 1998.